Lleoliad:
Lleoliad Allanol - Lleoliad Allanol
Dyddiad: Dydd Gwener, 14 Chwefror 2020
Amser:
10.00 -
11.57
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6268
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Ann Jones AC (Cadeirydd) Jayne Bryant AC Janet Finch-Saunders AC Russell George AC John Griffiths AC Llyr Gruffydd AC Mike Hedges AC Dai Lloyd AC Lynne Neagle AC Nick Ramsay AC David Rees AC |
Tystion: |
Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru John Howells, Llywodraeth Cymru Andrew Slade, Llywodraeth Cymru Christine Wheeler, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Ross Davies (Dirprwy Glerc) Emily Williams (Ymchwilydd) |
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a diolchodd i staff Ysgol Gymraeg Bro Dur am y croeso gafodd y Pwyllgor ac am y cymorth a roddwyd wrth drefnu'r cyfarfod, a diolchodd i'r disgyblion am eu hymgysylltiad ac am gynnig cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Mick Antoniw a Bethan Sayed.
Holodd y Pwyllgor y Prif Weinidog am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid hinsawdd yn dilyn y datganiad Argyfwng Hinsawdd.
Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol.
Cytunodd y Prif Weinidog i ddarparu gwybodaeth bellach am yr oedi wrth roi pasys bws newydd i bobl hŷn yng Nghymru
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth o'r sesiynau blaenorol a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog yn gofyn am wybodaeth bellach am nifer o faterion, gan gynnwys argaeledd gwefrwyr cyflym ar gyfer cerbydau trydan a sut mae proses gosod cyllideb Llywodraethau Cymru yn chwarae rôl wrth gyflawni datgarboneiddio.